Megan John - ‘Pa fath o ddyfodol hoffet ti fyw ynddo?’

preview_player
Показать описание
‘Mae’r celfyddydau yn rywbeth pwysig i fi .. dwi’n meddwl fod y celfyddydau yn rywbeth sydd mor bwysig i roi cyfle i bobol fynegi eu hun mewn ffyrdd anghonfensynol, mae hefyd yn rhoi’r cyfle i bobl ddysgu mewn ffordd wahanol, hefyd yn gallu helpu efo iechyd meddwl pobl’ – ‘dyma rhywbeth dwi’n teimlo angerdd drosto fo, a ma pawb efo rywbeth ma nhw’n teimlo’n angerddol troso, a ma nhw’n moyn fod o’n cael ei flaenoriaethu pan mae cyllid yn cael ei flaenoriaethu. Trwy bleidleisio, dyma sut yda ni’n gallu cael effaith’

Mae Megan yn dod o Gaerdydd, yn 28 oed ac yn gweithio fel Swyddog Cydraddoldeb a Chynhwysiant Anabledd i Anabledd Cymru. Mae ei chefndir yn cynnwys gweithio yn y celfyddydau yn enwedig y celfyddydau cymunedol ac fel actor anabl. Mae Megan yn angerddol bod y celfyddydau yn agored i bobl o bob cefndir a gweithio tuag at sicrhau cydraddoldeb i bobl anabl.

Rhan o gynhadledd 'Ni Bia'r Dewis', 15/04/21
Рекомендации по теме