Ceangal Dolen II | Mari Elen Jones | Cymru | 'Y Fantell Wen a Mari'

preview_player
Показать описание
As part of Ceangal Dolen II , a gathering of Celtic Theatre Makers, 6 artists were commissioned to produce new pieces of work for the online conference. Mari Elen Jones was one of the Welsh artists chosen. She premiered Y Fantell Wen a Mari as part of Ceangal Dolen II.

Mari Elen Jones. Dramodydd a gwneuthiwr theatr yng Ngogledd Cymru. Rwyf wedi gweithio gyda sawl cwmni theatr ers graddio o'r Atrium, Prifysgol De Cymru yn 2015, cyn mynd ati i sefydlu cwmni theatr fy hun, Cwmni Tebot. Dwi'n rhagori mewn gwaith sydd yn cynnwys cymeriadau cryf benywaidd, ac yn mwynhau ymchwilio mewn i beth sydd yn cysylltu merched at ei gilydd. Sgriptio ydw i'n bennaf erbyn hyn, ond mae gen i ddiddordeb mawr mewn perfformio, creu theatr dyfeisiedig ac rwyf wedi cychwyn barddoni.
Yn ddiweddar, rwyf wedi cychwyn podlediad Cymraeg o'r enw Gwrachod Heddiw lle dwi'n holi Merched gwych Cymru a cheisio canfod sut mae nhw yn debyg i wrachod yr 16eg ganrif. Trwy weithio ar podlediad Gwrachod Heddiw rwyf wedi cael fy syniad ar gyfer y prosiect hwn. Mae'r gwrachod gwych dwi'n cael ei cyfweld fel rhan o'r podlediad yn fy ysbrydoli lot.
• Enw eich prosiect arfaethedig.

Y Fantell Wen a Mari

Mi oedd Mary Evans, neu Mari'r Fantell Wen yn ddynas oedd yn troedio'r tir rhwng 1735 - 1789. Roedd hi'n ddynad pwerus a adawodd ei gwr yn Sir Fon i fynd i fyw hefo Pregethwr ym Maentwrog oherwydd doedd ei gwr hi ddim yn derbyn ri chrefydd, sef ei bod hi wedi dyweddio a Iesu. Daeth Crefydd Mari yn boblogaidd wrth iddi dennu rhwng 60 - 70 o ddilynwyr, ac un diwrnod fe briododd hi Iesu mewn seremoni yn Llan Ffestiniog yn gwisgo Mantell Goch. Yn dilyn ei phriodas wedyn, pob dydd SUl, mi fasa Mari a'i dilynwyr yn cerdded fyny y Moelwyni er mwyn cymryd rhan mewn seremoni lle byddai dilynwyr Mari yn gweiddi "AmenAmenAmen" yn gyflym, neu "Pw-pw-hwi, Pw-pw-hwi, Pw-pw-hwi!”. Buodd farw Mari yn 1789, a cafodd ei chladdu yn Llanfihangel ger Harlech.
Fy mwriad i ydy creu darn o waith yn astudio cysylltiad Mari'r Fantell Wen a minnau oherwydd fy nghysylltiadau cry hefo Ffestiniog, Harlech, a bod y ddwy ohonom ni'n rhannu'r r'un enw. Rwyf yn dychmygu creu ffilm fer celfyddydol yn troedio y tir gerddodd Mari'r Fantell Wen arni, yn gwisgo mantell goch, ac yna troedio'r tir fel fy hun. Mi faswn i'n cysylltu y ddwy gymeriad trwy berfformio "spoken word" fel troslais drost y ffilm, yn mynd o un cymeriad i'r llall yn disgrifio'r tir a'r agweddau merchetaidd sydd yn ein cysylltu ni, ond wedyn hefyd yn amlygu beth sy'n ein gwneud ni'n wahanol.
• Cynhwyswch enwau unrhyw gydweithredwyr neu
artistiaid/gweithwyrannibynnol cysylltiedig sy’n cymryd rhan yn y prosiect arfaethedig.
Dafydd Hughes - Amcan - Gwneuthiwr Ffilm
Lewis Williams - Sain
Engraifft o Waith:
Fideo: Sgwrs Dros Debot : Weli Di Fi - Eisteddfod Amgen.
Drama fer ysgrifnais a'i berfformio cafodd ganmoliaeth uchel yng ngylchgrawn barn ym mis Medi.
Barddoniaeth: Cerdd Fer.
Rwyf ar hyn o bryd yn gweithio ar farddoiaeth Spoken Word fel rhan o brosiect Popeth ar y Ddaear hefo Fran Wen.
Рекомендации по теме