Shirley Valentine - Rhagflas/Trailer

preview_player
Показать описание
Gan Willy Russell

Dychweliad comedi aruthrol o waith awdur Blood Brothers ac Educating Rita - ond tro yma, wedi ei pherfformio yn y Gymraeg.
Mae Cool Cymru wedi glanio ym Merthyr, ac i bobl ifanc mae bywyd o’r diwedd yn llawn cyffro, Catatonia, Y Stereophonics - ac alcopops.
Nid felly i Shirley druan. I Shirley, mae bywyd a chyffro yn perthyn i’r gorffennol - ac mae’r blynyddoedd treuliodd yn troedio yn ei rhigol, yn wraig tŷ difflach a di-nod, wedi rhoi tolc yn ei hyder a’i breuddwydion. Ond mae Shirley ar fin camu i fyd fydd yn trawsnewid ei bywyd yn gyfan gwbl. Ymunwch â hi wrth iddi ffarwelio â fformeica’r gegin a’i drwco am bythefnos o wyliau yng Ngroeg : pythefnos fydd yn newid Shirley am byth.
Shelley Rees (BBC Radio Cymru, Pobol Y Cwm) fydd yn serennu fel Shirley Valentine yn y gomedi ddisglair yma sydd yn siŵr o godi calon a chynnal ysbryd ar ôl caledi’r cyfnod clo. Yn addas i bawb o ddysgwyr i siaradwyr rhugl. Dewch gyda ffrind, dewch gyda chriw, i fwynhau anturiaethau Shirley a hedfan gyda hi ar ei thaith annisgwyl i Baradwys - a bywyd newydd.

By Willy Russell

The hit comedy by the writer of Blood Brothers and Educating Rita is back. And this time it’s in Welsh.
Cool Cymru has landed in Merthyr and for the youngsters life has never been so good; it’s Stereophonics, Catatonia and alcopops all the way for them.
Not for our Shirl. Shirley’s a girl who thinks her best days might be behind her, the years of drudgery and chips and egg have taken their toll. But Shirley’s about to take a leap into the unknown that will rock her world. Join her as she leaves her home for a fun-filled fortnight in Greece that will change her life forever.
Starring Shelley Rees (BBC Radio Cymru, Pobol Y Cwm), Shirley Valentine is the life-enhancing, feelgood comedy that we all need right now. Suitable for learners, fluent Welsh speakers and anyone in between. Bring yourself, bring your friends, but above all bring your sense of humour and join Shirley Valentine on the holiday of a lifetime.

Tour/Taith:

3-5 March/Mawrth - THEATR SOAR, Merthyr Tydfil

8 March/Mawrth - LYRIC THEATRE, Carmarthen

9 March/Mawrth - TALIESIN ARTS CENTRE, Swansea

10 March/Mawrth - RWCMD, Cardiff

11 March/Mawrth - THEATR FELINFACH, Ceredigion

12 March/Mawrth - ABERYSTWYTH ARTS CENTRE, Aberystwyth

14 March/Mawrth - THEATR BRYCHEINIOG, Brecon

16 March/Mawrth - THE STIWT, Rhosllannerchrugog

17 March/Mawrth - GALERI, Caernarfon

18 March/Mawrth - THE HAFREN, Newtown

20 March/Mawrth - THE TORCH, Milford Haven

22 March/Mawrth - BLACKWOOD MINERS' INSTITUTE, Blackwood

23 March/Mawrth - PARK & DARE THEATRE, Treorchy

24-26 March/Mawrth - THE WELFARE, Ystradgynlais

29 March/Mawrth - MEMO ARTS CENTRE, Barry

30 March/Mawrth - 1 April/Ebrill - GRAND PAVILION, Porthcawl
Рекомендации по теме
join shbcf.ru