Mair a Martha - stori o'r Beibl i blant

preview_player
Показать описание

Un diwrnod, dyma Iesu'n stopio mewn pentref o'r enw Bethania.
Tra oedd yno, aeth Iesu i ymweld â'i ffrindiau.
Roedd dwy chwaer o'r enw Martha a Mair yn byw yno.
Roedden nhw’n falch iawn o'i weld.
##
Rhuthrodd Martha i'r gegin i baratoi bwyd.
Eisteddodd Mair wrth draed Iesu i wrando arno'n siarad.
Trysorodd Mair ei hamser gyda Iesu achos roedd hi’n gwybod pa mor bwysig oedd gwrando arno.
##
Roedd Martha'n gwybod bod Iesu yn westai arbennig iawn.
Roedd hi eisiau i bopeth fod yn berffaith.
Rhuthrodd yma ac acw yn coginio ac yn glanhau.
Roedd hi'n drist nad oedd ei chwaer yn ei helpu.
##
O'r diwedd, roedd hi wedi blino.
Gofynnodd Martha i Iesu ddweud wrth Mair am ei helpu.
Ond dywedodd Iesu wrth Martha ei bod wedi dewis gwneud rhywbeth da, ond mai Mair oedd wedi dewis y peth gorau.
Рекомендации по теме
join shbcf.ru