Mojo JNR - Monaco (Fideo Cerddoriaeth/Music Video)

preview_player
Показать описание
Young Carers from YMCA Swansea got the opportunity to work with Jamie Panton, professional videographer and Singer/Songwriter Mojo JNR to produce a music video for his song 'Monaco'.

Over a set of dynamic and fast-paced video-making workshops learners worked through the fundamentals of shooting a creative music video. This crash course is led by videographer Jamie Panton who works in the music industry, giving the young people everything they need to know to start shooting their own music videos.

The Creative Learning Team at WMC were absolutely thrilled to provide this opportunity to YMCA Swansea Young Carers who are aspiring videographers. We hope to work with other partners to provide quality experiences for young people to learn and develop their knowledge in a variety of creative industry skills.

•••

Wales Millennium Centre: A Creative Home for Everyone - The National Arts Centre for Wales.

Stay Connected.

---

Cafodd gofalwyr ifanc o YMCA Abertawe y cyfle i weithio gyda Jamie Panton, fideograffydd proffesiynol sy’n gweithio yn y diwydiant cerddoriaeth, a’r canwr/cyfansoddwr Mojo JNR i gynhyrchu fideo cerddoriaeth ar gyfer ei gân Monaco. 

Dros gyfres o weithdai creu fideo dynamig a chyflym, cyflwynwyd hanfodion saethu fideo cerddoriaeth creadigol. Dysgodd y bobl ifanc am osod saethiad, golygu, goleuo, awgrymiadau cyn-gynhyrchu – pob agwedd ar y broses greadigol. Cafodd y dysgwyr brofiad ymarferol gydag offer gwerthfawr a chawsant y cyfle i roi eu stamp creadigol eu hunain ar y fideos terfynol, gan benderfynu ble a beth fyddai’n cael eu cynnwys.

Roedd y tîm Dysgu Creadigol yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn hapus iawn i ddarparu’r cyfle hwn i ofalwyr ifanc YMCA Abertawe sy’n ddarpar fideograffwyr. Rydyn ni’n gobeithio gweithio gyda phartneriaid eraill i ddarparu profiadau o ansawdd er mwyn i bobl ifanc ddysgu a datblygu eu gwybodaeth am amrywiaeth o sgiliau’r diwydiant creadigol.

•••

Canolfan Mileniwm Cymru: Cartref Creadigol i Bawb – Canolfan Gelfyddydau Genedlaethol Cymru.

Cadwch mewn cysylltiad.


Рекомендации по теме
visit shbcf.ru