Mared - Pe Bawn i'n Rhydd

preview_player
Показать описание
Mared – Pe Bawn I’n Rhydd

Dewiswyd Mared i fod yn rhan o Gronfa Lansio BBC Gorwelion eleni i recordio albym byw gyda’i band llawn. Mae Pe Bawn I’n Rhydd yn marcio’r sengl cyntaf allan o’r EP ‘Better Late Than Never’ sydd i ddod allan ar Fai y 3ydd. Mae’r trac newydd calonogol yn siwr o gael chi’n symud, hefyd wedi ei gynhyrchu gan Nate Williams, ond yn dod ag elfennau o’r albym cyntaf yn ôl i gyfarfod yr EP yn 2024.

Yng nghysyniad fideo’r gan, mae’r fersiwn ifanc o Mared yn estyn am focs degannau ac yn breuddwydio am bosibiliadau disglair y dyfodol. Mae Mared yn gwneud dangosiad fel nifer wahanol o gymeriadau gwahanol o’r bocs hwn.

Cyfarwyddwr: Owain Jones
Cyfarwyddwr Ffotograffiaeth: Gareth Bull
Cynorthwyydd Camera: Maisy Williams
Stylist: Miriam Isaac
Golygu: Pixy Jones & Dave Peate
Cynhyrchu: Ynyr Morgan Ifan, Owain Jones & Catrin Morris

Lyrics:
Un foment, dyna’r oll
Gymerodd I droi nol
A finne wedi meddwl swni’n rhydd

Creu byd bach yn fy mhen
Ond wir does gen ti’m clem
Pa fath o fyd, sydd mond yn gudd drachefn

Gwbo ‘mod i isho tyfu a just deu’ ‘tha ti
Ond ma’n anodd pan mae’r celwydd di bodoli’n hir

Pe bawn i’n rhydd
Sa ti’n gweld rhyw ddydd
Mai o dan y pridd mae’r geiriau’n deud y gwir

So eto, dyma fi
Bron iawn a dal fy nhir
Mor agos oedd y geiriau, arf y myw

Bob tro dwi ar fin deud
Amheuaeth sydd yn gwneud ei ffordd trwy fy ngwythiennau at y llyw

Gwbo ‘mod i isho tyfu a just deu’ ‘tha ti
Ond ma’n anodd pan mae’r celwydd di bodoli’n hir

Pe bawn i’n rhydd
Sa ti’n gweld rhyw ddydd
Mai o dan y pridd mae’r geiriau’n deud y gwir

Ddim yn siwr pryd ddaw yr amser
Bodlon fyddai tan y pryd
Adeiladu ar yr hyder
Ryw ddydd nei di weld fi i gyd

Cerddoriaeth newydd a diwylliant cyfoes Cymru 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿
New Welsh music and contemporary culture 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

Gwasga'r botwm 'Subscribe'

TikTok, Instagram, Twitter & Facebook - @Lwps4c
Рекомендации по теме
Комментарии
Автор

Cân berffaith, fideo perffaith, a neges berffaith i'n hamser ni. Da iawn, Mared — a'ch holl dîm! 🎵🎬🙌🏻💚

pawliemusic
Автор

Prydferthwch fel arfer gan Mared. Dwi'n hoffi nad ydy hi'n mainstream a bod ei ganeuon yn dilys. Mae'n rhaid i ni warchod a amddiffyn cerddoriaeth Cymru a nid gadael i'r arian arwain y fordd a troi ein cerddoriaeth yn ffug a di-enaid. <3

siwreynolds
Автор

Can arbennig o dda! Fraint i’ch wylio’n fyw heno yn Manor Park, Clydach gyda Côr hyn ysgolion Dur a Môr ❤

orionalexandersummers
Автор

Cân a fideo gwych! Edrych ymlaen i glywed mwy o ganeuon newydd!

llinbob